Dweud eich dweud

Diolch am roi o’ch amser i fwrw golwg dros ein cynnig ar gyfer Hyb Ynni Gwynt Waun Maenllwyd. Gobeithio bod yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol i chi ac yn eich annog i ofyn unrhyw gwestiynau.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech chi gwblhau’r holiadur hwn. Mae’ch adborth chi’n bwysig fel y gallwn ddatblygu’r cynnig yn y ffordd orau posib.

Bydd digwyddiad ymgynghori arall y flwyddyn nesaf lle byddwn yn cyflwyno ein cynlluniau datblygedig. Byddwn yn rhoi manylion y digwyddiad hwn ar ein gwefan: www.waunmaenllwyd.com/cy.

Dim ond pan fyddwch chi’n ei rhoi i ni y byddwn ni’n casglu gwybodaeth bersonol fel eich enw, swydd, enw cwmni, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.

Dim ond o fewn tîm cynllunio Waun Maenllwyd y bydd eich data personol yn cael ei rannu, a hynny at ddibenion penodol mewn perthynas â datblygu’r cynnig. Ni fyddwn yn defnyddio’ch data personol at unrhyw ddibenion eraill heb eich caniatâd chi. Mae gwybodaeth am Bolisi Preifatrwydd Data Belltown Power ar gael yn: www.belltownpower.com/uk/belltown-power-privacy-policy.

Nid yw sylwadau a wneir drwy’r ffurflen adborth hon yn sylwadau a roddir i Lywodraeth Cymru. Bydd cyfle i gyflwyno sylwadau ar Hyb Ynni Gwynt Waun Maenllwyd i Lywodraeth Cymru unwaith y bydd cais wedi’i gyflwyno gan yr ymgeisydd